Ar y wefan mae gwybodaeth am ddinas Bangor, beth sy’n digwydd yma a hefyd peth o’i chefndir a’i hanes. Mae cysylltiad yma i wybodaeth am y Stryd Fawr, i’r gwahanol atyniadau yn ardal Bangor ac i ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn y Ddinas yn y dyfodol agos. Cewch hefyd ddysgu am Gyngor Dinas Bangor a pha wasnaethau y mae’n ei ddarparu i’r gymuned. Mae amserlen i’r Cyngor a’i Bwyllgorau a chofnodion y cyfarfodydd hynny.
Hwb Dinas Bangor
Mae’r Hwb yn agored i bawb ac yn fan diogel lle gallwch gael cymorth a chyngor ar ystod eang o faterion cymdeithasol a lles.
Darganfod mwy
Prosiect Trawsnewid Bangor
Trawsnewid Bangor
Gyfeillgarwch Gefeillio Dinas
Darganfod mwy
Mae'n fraint i Gyngor Dinas Bangor nodi diweddglo blwyddyn arbennig o ddathliadau i anrhydeddu 1,500 mlwyddiant, carreg filltir sydd wedi dwyn ynghyd cymunedau ac wedi arddangos treftadaeth gyfoethog Bangor a gosod sylfeini i'r cenedlaethau i ddod.
Drwy gydol 2025, bu rhaglen 1500 Bangor yn galendr helaeth o ddigwyddiadau treftadaeth, seremonïau dinesig, gwyliau diwylliannol, gweithgareddau i'r gymuned a gwelliannau i'r mannau cyhoeddus, yn ei gwneud yn un o'r blynyddoedd mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddinas.
Roedd yr uchafbwynt dinesig ym mis Mai gyda gorymdaith filwrol drawiadol, pan dyrrodd miloedd i'r strydoedd i weld y rhai sy'n gwasanaethu yn y Ffiwsilwyr Cymreig a'r Gwarchodlu Cymreig, RAF Fali, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr a dros 100 o gadetiaid yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas. Yn cael eu harwain gan Shenkin IV, gafr y Gwarchodlu a Band y Fyddin Brydeinig o Gatraeth, dyma un o achlysuron dinesig pwysicaf Bangor ers degawdau, ennyd falch i adlewyrchu undod a gwytnwch y ddinas a'i pharch dwfn at hanes.
Ym mis Hydref cafwyd digwyddiad nodedig arall gyda Gwyl Hanes Bangor, rhaglen dau ddiwrnod o sgyrsiau, teithiau, gweithdai ac arddangosfeydd a ddenodd dros fil o bobl. Gyda chyfraniadau gan haneswyr blaenllaw fel Greg Jenner a'r Athro Kate Wilkiams, bu'r wyl yn archwilio hanes canoloesol Bangor, hanes menywod, y dreftadaeth Iddewig, hanesion morwrol a mwy, tra bo cannoedd o blant ysgol wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol.
Cafwyd golygfeydd cofiadwy yn nathliadau haf y flwyddyn benblwydd. Ar 16 Awst, trawsnewidiwyd canol dinas Bangor gan yr Wyl Haf a oedd yn cynnwys atyniadau gwych i'r teulu ac adloniant byw. Gwefr oedd gweld brontosawrws 6.5 metr o daldra yn crwydro drwy'r tyrfaoedd. Roedd cerbydau o fyd y ffilm ar y Stryd Fawr, cafwyd Helfa Drysor Dino drwy'r ddinas, gweithdai syrcad, injans stêm a rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw. Roedd hwyl yr wyl i'w glywed mewn perfformiadau gan Pantonic All Stars, Fearlessly Taylor, Oasis - est. 1885 a Celt. Disgrifiodd Dr Martin Hanks yr wyl fel "diwrnod bydd y ddinas yn ei gofio am byth".
Roedd hyn yn dilyn "Penwythnos Mawr" mis Gorffennaf, dathliad cymunedol tri diwrnod a oedd yn cynnwys Bedlam Bingo, cerddoriaeth Gymraeg dan nawdd y Fenter Iaith, a diwrnod o hwyl i'r teulu gydag archarwyr, tywysogesau, teganau chwyddo, sioeau a pheintio wynebau, pob un yn cyfrannu at ddathliad cynnes a chynhwysol o ddiwylliant lleol.
Bydd y flwyddyn ddathlu yn dod i ben gyda sioe Tân Gwyllt Nos Galan ar Bier Bangor, pan welir yr awyr wedi'i oleuo dros Fangor, clo teilwng ar flwyddyn sydd wedi anrhydeddu gorffennol pwysig y ddinas ac yn ysbrydoliaeth i obaith newydd ac uchelgais i'r dyfodol. Wrth i'r goleuadau ddisgleirio uwchben dyfroedd Afon Menai, mae Bangor yn dechrau pennod newydd, yn parhau â'r balchder, yr undod a'r ysbryd cymunedol sydd wedi diffinio'r 1,500 mlwyddiant. Gan fyfyrio ar raglen y penblwydd, meddai Dr Martin Hanks:
"Mae Bangor 1500 wedi bod yn llawer mwy na dathlu'n gorffennol, mae wedi bod yn sbardun i'r dyfodol. Mae'r garreg filltir hon wedi dangos cryfder, balchder a chreadigrwydd ein cymuned. Wedi'n hatgoffa am pwy ydym ni, a'n hysbrydoli i adeiladu'r Bangor a ddymunwn i genedlaethau'r dyfodol ei etifeddu".
Gyda'i gyfuniad o dreftadaeth, diwylliant, ymgysylltiad cymunedol a gwelliannau hirdymor, mae 2025 wedi cadarnhau lle Bangor fel un o ddinasoedd mwyaf hanesyddol a blaengar Cymru.
Lansiwyd Coleg Treftadaeth Bangor yn swyddogol ar 27 Tachwedd, gan nodi dechrau project newydd cyffrous sy’n dathlu hanes cyfoethog y ddinas.
Mae’r coleg yn adeiladu ar y model llwyddiannus a ddatblygwyd trwy Bartneriaeth Tirwedd Ynys Cybi, ac yn gwahodd disgyblion ysgol i ddysgu am dreftadaeth Bangor trwy gyfres o fodiwlau dysgu hyblyg a difyr, gan ennill credydau ac yna graddio mewn seremoni y flwyddyn nesaf.
Arweinir y fenter gan Brifysgol Bangor gyda chyllid gan Gyngor Dinas Bangor a chefnogaeth gan bartneriaid allanol, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein ag archwilio go iawn, gan annog disgyblion i ddarganfod straeon, tirnodau a phobl leol. Trwy gymryd rhan yn y modiwlau, cefnogir disgyblion i ddysgu gyda ffrindiau, aelodau o'u teulu a'u cymuned ehangach, gan gryfhau eu hymdeimlad o berthyn a'u cysylltiad â'r ddinas.
Daeth dros ddeg ar hugain o ddisgyblion o saith ysgol yn ardal Bangor i’r digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, un o neuaddau hanesyddol y brifysgol. Rhoddodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr y Ddinas, a'r Cynghorydd Medwyn Hughes, Maer Bangor, y croeso swyddogol, cyn i arweinwyr y project, Nia Young, Uwch Ddarlithydd Addysg a Chwnsela ym Mhrifysgol Bangor, a Mervyn Jones gyflwyno'r rhaglen i'r disgyblion.
Fel rhan o'r lansiad, cafodd y disgyblion daith dywys o amgylch Prif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gyda Dr Leona Huey, Darlithydd Treftadaeth, a chawsant gyfle i rannu syniadau i ddatblygu'r project i annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan. Bydd tîm y coleg treftadaeth yn ymweld ag ysgolion lleol yn y flwyddyn newydd i barhau â'r sgyrsiau hyn a chefnogi disgyblion wrth iddynt ddechrau gweithio trwy'r modiwlau.
Meddai Nia Young: “Rydym yn falch iawn o lansio Coleg Treftadaeth Bangor. Roedd project Caergybi yn gymaint o ysbrydoliaeth ac rydym yn falch dros ben o ddod â'r cysyniad i Fangor, yn enwedig gan fod y ddinas yn dathlu 1,500 o flynyddoedd ers ei sefydlu eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion ym Mangor i gefnogi plant i ddysgu am eu treftadaeth leol dros y misoedd nesaf. Diolch arbennig i Mervyn Jones am baratoi'r modiwlau dysgu, sy'n gyfraniad amhrisiadwy at gysylltu disgyblion ysgolion lleol â hanes a threftadaeth gyfoethog Bangor.
Meddai Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor; “Fel dinas hynaf Cymru, mae gan Fangor hanes cyfoethog, a bydd y project hwn yn cynyddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y ddinas ymhlith disgyblion ysgolion lleol. O dirnodau ac adeiladau nodedig i unigolion dylanwadol a cherrig milltir pwysig, bydd y coleg treftadaeth yn sicr o ysbrydoli disgyblion ysgol i ddysgu mwy am orffennol Bangor.
“Mae’r project yn ychwanegu at y dathliadau i nodi 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu Bangor eleni, gan ychwanegu at Ŵyl Hanes Bangor a digwyddiadau eraill a gynhaliwyd yn 2025. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a gweld disgyblion yn graddio ar ôl eu gwaith caled.”
Mae rhagor o wybodaeth am Goleg Treftadaeth Bangor ar gael yn: www.bangor.ac.uk/community/bangor-heritage...
Yn dilyn y rhodd ddiweddar gan grwp Ffrindau Pier Garth Bangor at gwblhau’r gwaith uwchraddio strwythurol ar hon, un o brif atyniadau Bangor, cyfarfu cynrychiolwyr Cyngor Dinas Bangor heddiw ag arbenigwyr o YGC/Gyngor Gwynedd i drafod rhaglen ddiogelwch a chynnal a chadw hirdymor.
Daeth Dinas Bangor ynghyd ar Sul y Cofio i anrhydeddu a chofio’r holl rai a fu’n gwasanaethu ac a aberthodd er ein rhyddid.
Rydym yn falch o rannu detholiad o luniau o’r gwasanaeth, yn dangos eiliadau o fyfyrdod, parch ac undod ar draws ein cymuned.
Hoffai Cyngor y Ddinas ddiolch i bawb a oedd yn bresennol ac a gefnogodd y seremoni eleni, gan helpu i’w gwneud yn weithred urddasol ac ystyrlon o gofio.
Mae teithwyr llongau mordaith sy'n cyrraedd Porthladd Caergybi ar fin mwynhau cyrchfan gyffrous newydd ar eu taith yng Ngogledd Cymru, sef dinas hanesyddol Bangor, lle bydd 1,500 o flynyddoedd o dreftadaeth yn dod yn fyw trwy gerddoriaeth, diwylliant a chroeso cynnes Cymru.
Yn dilyn ymweliad llwyddiannus rhwng Cyngor Dinas Bangor a Cruise Wales, a chyfarfod cyflwyniadol cadarnhaol gyda phartneriaid sy'n trin llongau mordaith ar y tir, mae'r trafodaethau wedi bod yn galonogol iawn. Nod y cydweithrediad yw dod â theithwyr llongau mordaith i Fangor o fis Ebrill 2026, gan nodi cam arwyddocaol wrth gryfhau rôl y ddinas o fewn sector twristiaeth sy'n tyfu yng Ngogledd Cymru.
Mae cynlluniau’n datblygu i wneud Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant yn ganolbwynt profiad diwylliannol newydd i westeion sy’n glanio yng Nghaergybi, gyda cherddoriaeth fyw, teithiau tywys, canu clychau, a lluniaeth draddodiadol sy’n dathlu treftadaeth unigryw Bangor a hunaniaeth Gymreig.
“Mae Bangor yn un o ddinasoedd hynaf Prydain, gyda stori sy’n ymestyn yn ôl 1,500 o flynyddoedd,” meddai Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor. “Mae’r Eglwys Gadeiriol wrth wraidd y stori honno, yn symbol byw o’n hanes a’n cymuned. Rydym wrth ein bodd yn agor ein drysau i ymwelwyr mordeithiau a rhoi blas gwirioneddol iddynt o ddiwylliant a lletygarwch Cymru.”
Dywedodd Louise Campbell, Uwch Byrser a Chynllunydd Teithiau o Fordeithiau’r Hebridean, fod y bartneriaeth â Cruise Wales yn gam mawr ymlaen i wella’r profiad mordeithiau yng Ngogledd Cymru.
“Mae’n bleser gennym weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Bangor i gyfoethogi’r arlwy mordeithio yng Ngogledd Cymru,” meddai. “Mae gan Fangor lawer i’w gynnig, gyda’i hanes anhygoel, pobl leol gyfeillgar, a golygfeydd prydferth. Bydd cynnwys Bangor ar deithiau’r dyfodol yn rhoi ymdeimlad o le gwirioneddol gofiadwy i’r gwesteion”
Mae twristiaeth mordeithio yn parhau i ddod â manteision sylweddol i Gymru, gyda bron i 80,000 o deithwyr yn ymweld â phorthladdoedd Cymru y llynedd ac yn cynhyrchu tua £7.5 miliwn mewn gwariant ymwelwyr. Ymwelodd bron i 50,000 o'r rheini â Chaergybi, a disgwylir i'r nifer hwnnw dyfu yn y blynyddoedd nesaf.
Fel rhan o'r broses, bydd Cyngor Dinas Bangor yn cynnal ymgyrch farchnata wedi'i thargedu i ymgysylltu â thrinwyr tir llongau mordeithio ac annog datblygu pecynnau ymwelwyr, yn barod i'w lansio o fis Ebrill 2026.
Mae’r cynllun hwn yn gam mawr arall ymlaen yn dilyn dathliadau 1,500 mlynedd y ddinas, yn dyst o’r bartneriaeth gref sy'n gweithio ar draws Bangor i greu newid cadarnhaol parhaol.
“Mae’r bartneriaeth hon wir yn tynnu sylw at yr hyn y mae Gogledd Cymru yn ei wneud orau - cydweithio, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol,” ychwanegodd Dr Hanks. “Rydym yn barod i roi croeso bythgofiadwy i ymwelwyr a dangos iddynt fod Bangor yn lle ble mae hanes a chalon yn dod at ei gilydd.”
Gosododd Maer Dinas Bangor, y Cynghorydd Medwyn Hughes, dorch wrth y Gofeb Ryfel ar ran Cyngor y Ddinas a'i thrigolion, gan dalu teyrnged i'r rhai a fu farw gyda pharch a diolchgarwch dwfn.