Bangor yn dathlu 1,500 mlynedd gyda Blwyddyn o Gymuned, Diwylliant a Balchder Dinesig

17 Rhagfyr 2025
Mae'n fraint i Gyngor Dinas Bangor nodi diweddglo blwyddyn arbennig o ddathliadau i anrhydeddu 1,500 mlwyddiant, carreg filltir sydd wedi dwyn ynghyd cymunedau ac wedi arddangos treftadaeth gyfoethog Bangor a gosod sylfeini i'r cenedlaethau i ddod.

Drwy gydol 2025, bu rhaglen 1500 Bangor yn galendr helaeth o ddigwyddiadau treftadaeth, seremonïau dinesig, gwyliau diwylliannol, gweithgareddau i'r gymuned a gwelliannau i'r mannau cyhoeddus, yn ei gwneud yn un o'r blynyddoedd mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddinas.

Roedd yr uchafbwynt dinesig ym mis Mai gyda gorymdaith filwrol drawiadol, pan dyrrodd miloedd i'r strydoedd i weld y rhai sy'n gwasanaethu yn y Ffiwsilwyr Cymreig a'r Gwarchodlu Cymreig, RAF Fali, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr a dros 100 o gadetiaid yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas. Yn cael eu harwain gan Shenkin IV, gafr y Gwarchodlu a Band y Fyddin Brydeinig o Gatraeth, dyma un o achlysuron dinesig pwysicaf Bangor ers degawdau, ennyd falch i adlewyrchu undod a gwytnwch y ddinas a'i pharch dwfn at hanes.

Ym mis Hydref cafwyd digwyddiad nodedig arall gyda Gŵyl Hanes Bangor, rhaglen dau ddiwrnod o sgyrsiau, teithiau, gweithdai ac arddangosfeydd a ddenodd dros fil o bobl. Gyda chyfraniadau gan haneswyr blaenllaw fel Greg Jenner a'r Athro Kate Wilkiams, bu'r ŵyl yn archwilio hanes canoloesol Bangor, hanes menywod, y dreftadaeth Iddewig, hanesion morwrol a mwy, tra bo cannoedd o blant ysgol wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol.

Cafwyd golygfeydd cofiadwy yn nathliadau haf y flwyddyn benblwydd. Ar 16 Awst, trawsnewidiwyd canol dinas Bangor gan yr Ŵyl Haf a oedd yn cynnwys atyniadau gwych i'r teulu ac adloniant byw. Gwefr oedd gweld brontosawrws 6.5 metr o daldra yn crwydro drwy'r tyrfaoedd. Roedd cerbydau o fyd y ffilm ar y Stryd Fawr, cafwyd Helfa Drysor Dino drwy'r ddinas, gweithdai syrcad, injans stêm a rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw. Roedd hwyl yr ŵyl i'w glywed mewn perfformiadau gan Pantonic All Stars, Fearlessly Taylor, Oasis - est. 1885 a Celt. Disgrifiodd Dr Martin Hanks yr ŵyl fel "diwrnod bydd y ddinas yn ei gofio am byth".

Roedd hyn yn dilyn "Penwythnos Mawr" mis Gorffennaf, dathliad cymunedol tri diwrnod a oedd yn cynnwys Bedlam Bingo, cerddoriaeth Gymraeg dan nawdd y Fenter Iaith, a diwrnod o hwyl i'r teulu gydag archarwyr, tywysogesau, teganau chwyddo, sioeau a pheintio wynebau, pob un yn cyfrannu at ddathliad cynnes a chynhwysol o ddiwylliant lleol.

Bydd y flwyddyn ddathlu yn dod i ben gyda sioe Tân Gwyllt Nos Galan ar Bier Bangor, pan welir yr awyr wedi'i oleuo dros Fangor, clo teilwng ar flwyddyn sydd wedi anrhydeddu gorffennol pwysig y ddinas ac yn ysbrydoliaeth i obaith newydd ac uchelgais i'r dyfodol. Wrth i'r goleuadau ddisgleirio uwchben dyfroedd Afon Menai, mae Bangor yn dechrau pennod newydd, yn parhau â'r balchder, yr undod a'r ysbryd cymunedol sydd wedi diffinio'r 1,500 mlwyddiant. Gan fyfyrio ar raglen y penblwydd, meddai Dr Martin Hanks:

"Mae Bangor 1500 wedi bod yn llawer mwy na dathlu'n gorffennol, mae wedi bod yn sbardun i'r dyfodol. Mae'r garreg filltir hon wedi dangos cryfder, balchder a chreadigrwydd ein cymuned. Wedi'n hatgoffa am pwy ydym ni, a'n hysbrydoli i adeiladu'r Bangor a ddymunwn i genedlaethau'r dyfodol ei etifeddu".

Gyda'i gyfuniad o dreftadaeth, diwylliant, ymgysylltiad cymunedol a gwelliannau hirdymor, mae 2025 wedi cadarnhau lle Bangor fel un o ddinasoedd mwyaf hanesyddol a blaengar Cymru.

Bangor 1500

Bangor 1500

Bangor 1500