Bydd gorymdaith filwrol ysblennydd yn cael ei chynnal ym Mangor ddydd Iau, 29ain Mai, fel un o brif uchafbwyntiau pen-blwydd y ddinas yn 1500, gan nodi un o’r digwyddiadau dinesig mwyaf uchelgeisiol a phwysig diweddar.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 11.30 yb ym Maes Parcio Glanrafon, yn mynd i lawr y Stryd Fawr a Stryd y Deon gyda saliwt ffurfiol am hanner dydd ger cloc y dref, cyn diweddu yng nghaeau chwarae Storiel am 12.30 yp.
Ymhlith y rhai fydd yn gorymdeithio bydd bron i 200 o filwyr sy’n gwasanaethu ac awyrenwyr o RAF y Fali, ynghyd â chyn-filwyr a chadetiaid, rhai wedi teithio o ganolfannau yn Llundain, Catraeth, a Chaerdydd. Mae eu presenoldeb yn adlewyrchu nid yn unig rhagoriaeth filwrol ond hefyd ysbryd o undod a balchder cenedlaethol.
Bydd hedfan dros y stryd fawr i gyd-fynd â saliwt y Maer gan RAF y Fali, os bydd y tywydd yn caniatáu, yn ychwanegu elfen awyrol ddramatig i ddigwyddiadau'r dydd. Gan ychwanegu at y traddodiad, bydd Gafr Gatrodol y Gwarchodlu Cymreig yn arwain yr orymdaith ac yn dilyn bydd y cerddorion milwrol gorau, Band y Fyddin a fydd wedi teithio o Gatraeth yn Sir Efrog. Rhodddwyd Rhyddfraint Dinas Bangor i’r Gwarchodlu Cymreig yn 2014, gan ddyfnhau eu cysylltiad hanesyddol â’r Ddinas a chafodd y Cymry Brenhinol ac RAF y Fali yr un peth mewn blynyddoedd wedyn.
Bu dwy flynedd ers dechrau cynllunio’r orymdaith, sydd wedi’i chydlynu mewn cydweithrediad â nifer o sefydliadau i sicrhau bod ei graddfa a’i harwyddocâd yn adlewyrchu pwysigrwydd carreg filltir 1500 mlynedd Bangor.
Yn dilyn yr orymdaith, bydd y dathliadau’n parhau gyda Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn Nhan y Fynwent a’r tu allan i Storiel, gydag adloniant a gweithgareddau i bob oed.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi cadarnhau bod Wrexham Lager yn falch o gefnogi'r digwyddiad fel y prif noddwr.
Dywedodd Cynorthwyydd Catrawd y Gwarchodlu Cymreig yr Is-gyrnol Guy Bartle-Jones ddoe: 'Mae'r hyn y mae Cyngor Dinas Bangor wedi'i gyflawni wrth ddod â'r fath saliwt milwrol mawreddog i ben-blwydd y Ddinas yn 1,500 yn gwbl unigryw ac yn ganmoladwy iawn.
“Mae tair o’r unedau gorymdeithio, y Gwarchodlu Cymreig, y Cymry Brenhinol a Llu Awyr Brenhinol y Fali eisoes yn falch o fod yn Rhyddfreinwyr y Ddinas, ond mae’r rhai eraill sy’n gorymdeithio yr un mor falch o fod wedi cael eu gwahodd ynghyd â neb llai na Band y Fyddin o Gatraeth a fydd yn sefyll i mewn dros Fand y Gwarchodlu Cymreig sy’n gorfod ymgymryd â dyletswyddau seremonïol eraill.
“Yn ystod y ddwy flynedd o gynllunio mae Bangor wedi dangos dewrder anhygoel wrth oresgyn llawer o newidiadau annisgwyl i’r cynllun yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond yr hyn sydd mor bleserus i mi yw y bydd yr ychydig fylchau yn nhrefn yr orymdaith yn cael eu llenwi gyda nifer anhygoel o gadetiaid y Fyddin a’r Llu Awyr o bob rhan o Ogledd Cymru sydd mor frwdfrydig i fod yn rhan ohono.
Ychwanegodd: “Ar lefel bersonol, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at deithio yn ôl i Fangor lle mae gan y Gwarchodlu Cymreig ynghyd â’r Cymry Brenhinol deulu cryf a balch iawn o Gyn-filwyr ac ymlyniad i Ddinas Bangor. Mae gan ein dwy Gatrawd Lliwiau wedi'u gosod yn y Gadeirlan.
Bydd mintai o 60 o swyddogion ac aelodau’r Gwarchodlu Cymreig yn teithio i Fangor ar gyfer y digwyddiad ynghyd ag uwch swyddogion o’u Pencadlys yn Wellington yn Llundain.
Y llynedd, cafodd Byrllysg newydd Dinas Bangor ei orymdeithio a’i gyfarch y tu allan i Balas Buckingham gan y Gwarchodlu Cymreig.’’
Ychwanegodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinesig Cyngor Dinas Bangor;
'Rydym yn hynod falch o weld Bangor yn cynnal digwyddiad mor bwysig ac arwyddocaol. Mae'r amser, yr ymdrech a'r ymroddiad a ddangoswyd gan bartneriaid allweddol wedi bod yn wych ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny. Nid dathliad o wasanaeth yn unig yw’r Parêd, ond adlewyrchiad o’r parch dwfn a’r undod yn ein dinas. Ymunwch â ni ar gyfer yr achlysur hanesyddol hwn wrth i Fangor anrhydeddu ei gorffennol ac edrych ymlaen at ei dyfodol'.
Yn y llun gwelir Gwarchodlu Cymreig ym Mangor, yn 2017.
Llun: Dawn Hughes
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lyn Parry yng Nghyngor Dinas Bangor ar 01248 564168.
Am unrhyw ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â Medi Parry-Williams ar 0746097587.